P-05-799 Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth  – Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor, 30.01.18

 

Prif Nodweddion a Gobeithion y ddeiseb “ Dysgu hanes Cymru yn ein ysgolion Cynradd, Uwchradd a Chweched dosbarth ac o berspectif Cymreig”

 

Aelodau’r Senedd a’r pwyllgor deisebau,

Cyn i mi restru fy amcaion ar y papur hwn, hoffwn nodi gymaint rwyf yn yssu i gael y cyfle i esbonio wrthych wyneb yn wyneb yn hytrach nag ar ffurf ysgrifen  fy ngobaith i gael cwrricwlwm unedig ar hanes Cymru. Mae fy angerdd at y matter hollbwysig yma yn methu cael ei broffesu drwy eiriau’r ddogfen yma’n unig. Mae hanes ein gwlad yn ddyfnnach, ehangach a phwysicach na pishyn o bapur wedi’i gyfnygu, gyda ffracswin bychan o’n ngobeithion wedi’i ysgrifennu arno, i gymharu beth fyswn yn gallu dweud wrthych fy hun. Yn wir ni fedrith y papur yma egluro’n gyfan fy ngobeithion i, a gobaith bobl Cymru tuag at addysgu hanes ein gwlad. Felly, os gwelwch yn dda caf ddod i gyflwynno’r mater drwy fy ngeiriau yn hytrach na gwybodaeth bras y ddogfen hon.

Yn gywir – Elfed Wyn Jones

Ar ol darllen y llythyr yrrodd y Gwenidog addysg,  i Gaderiydd y bwrdd deisebau mi wnes i ddod i’r canlyiand yma:

-Fod y nodweddion o beth rydym yn anelu ei gyraedd yno, ond nid yw’r dulliau priodol digon da i lwyddo gyda hynny.

-Ei fod o’n awgrymmu dod ag Unedau o hanes Cymru i fewn yn hytrach na’n gwneud hanes Cymru’n ganolog, a canghennau o hanes Cymru sy’n mynd i gael ei ddysgu

-Teimlad fod Hanes Cymru yn rannedig a dal yn annelwig yn y ffordd fyddai’n cael ei ddysgu drwy’r ffordd fyddai’n cael ei wneud yn ol y llythyr.

Fy ngobaith gyda dysgu hanes Cymru yw’r canlynol –

1.   Creu Cwriccwlwm Unedig ar Hanes Cymru

Creu Cwricwlwm Unedig ar hanes Cymru, i ni gael dysgu ein plant y prif nodweddion sydd wedi arwain at y ffordd mae Cymru wedi’i ffurfio heddiw. Beth olygaf gyda’r gair “Unedig” yw hanes Cymreig mae pob plentyn a person Ifanc yn ei glywed, dim bwys o ba ardal mae’n byw ynddi, mae hynny’n golygu gwybodaeth megis –

-          Oes y Celtiaid a’r Rhufeiniaid

-          Hanes y Tywysogion, y Seintiau a’r Cymru cynnar

-          Gwrthyryfel Glyndwr

-          Cymru yn y Canoloesoedd

-          Cymru yn y  chywldro diwydiannol (rhyddfrydaeth, anghydffurfiaeth, ymerodraeth)

-          Cymru yn ystod y ddau l ryfel byd

-          Datblygiad y Gymru Fodern ( Brwydrau’r Iaith yn nghyd-destun brwydrau’r 60au, yr ymgyrch am y Senedd)

 

-------       Gellir ychwanegu nifer o bwyntiau eraill gyda hyn, ond dyma yw rhai o’r engreifftiau    -------

 

2. Dysgu Hanes Lleol

 Yn ogystal a dysgu prif agweddau hanes Cymru i bob plentyn a person ifanc yng Nghymru, mae’n bwysig fod yna le yn y Cwricwlwm i ddysgu hanes lleol yr ardal maen’t wedi’i fagu neu’n cael addysg ynddo.

Gallai hyn olygu ddysgu am hen greiriau ac adeiladau yn yr ardaloedd a rhoi ystyr i lawer iawn o ryfeddodau, gan wneud i nhw werthfawrogi eu gwlad a’u ardal genedigol.

Pwysig yw nodi hefyd fod yna lawer iawn o fobl sydd wedi profi’r hyn mae plant yn ei ddysgu yn yr ysgolion, yn enwedig pobl hyn mewn cymdeithas sydd wedi cymryd rhan mewn materion hanesyddol lleol, a Chenedlaethol, ond hefyd sy’n dal gwybodaeth wedi’i basio drwy’r cenedlaethau a gymdeithas a’n werth ei ddefnyddio i ddysgu’r genhedlaeth nesaf o fobl ifanc, mae dipyn o son wedi bod am hyn ar newyddion y BBC Cymru yn ddiweddar, ond mae angen ei sicrhau o fewn y drefn o ddysgu hanes. Felly mae angen pwyslais i ddefnyddio’r adnoddau lleol, megis pobl, offer a mannau hanesyddol a’r adnoddau Cenedlaethol fel Cestyll, Gweithdai a Channolfannau addysgol.

O fynd o gwmpas yn casglu enwau roeddwn yn cael amryw o fobl yn rhoi’r dyfynniad yma-“ Mi roeddwn i’n cael mwy o addysg am ddiwydiant a hanes America, na’r tir oeddwn yn troedio arno”.

3. Y Perspectif Cymreig

 Mae’n bwysig cael addysg hanes sy’n ganolog a’n canolbwyntio ar hanes Cymru yn gyntaf, gan esblygu ymlaen wedyn i uno digwyddiadau byd-eang ynddo, a disgrifio sut cafodd hynny effaith ar ddigwyddiadau yng Nghymru. Mae llawer o fobl yn ofni byddai dysgu Hanes Cymru yn “cuddio” digwyddiadau eraill sydd wedi digwydd yn y byd, ond yr ymateb rydw i ac eraill wastad yn ei ddweud yw “os mae pob gwlad arall yn y byd yn gallu adrodd hanes ei hun yn llwddiannus a phlethu digwyddiadau eraill yn y byd ynddo hefyd, yna mae sicrwydd i ni ddysgu hanes ein hun hefyd yn yr un modd”. Dyma fethodoleg sydd yn gwbl anghenrheidiol os ydym am sicrhau bod y ddelfryd o Gymru fel gwlad hyderus a byd-eang ei gorwelion yn cael ei hetifeddu gan ein plant – nid oes modd cynnal ein ‘Rhyngwladoldeb Cymreig’ heb inni bwysleisio’r Gymreig a’r Rhyngwladol.

Mae’n angenrheidiol fod Addysg Cymru yn flaengar yn ein ysgolion gan ei fod yn dysgu i blant a phobl ifanc i barchu nodweddion y wlad, sef at eu cymunedau, y bobl sy’n byw ynddi, y traddodiadau a gyda’r Iaith Gymraeg, drwy ddysgu am y brywdrau Iaith mi fyddant yn ei barchu ac eisiau gweld yr Iaith yn goroesi a datblygu tua’r dyfodl.

Mae angen dysgu’r Hanes o berspectif Cymraeg yn bendant, gan werthuso sut oedd gwahanol faterion a digwyddadau wedi cael effaith ar Gymru a’i phobl. Mae hyn yn cael ei golli oherwydd fod yna ddiffyg i edrych ar safbwyntiau gwahanol yng Nghymru, gan golli’r naratif Gymeig wedyn yn y drafodaeth. Mae angen edrych yn ddyfnach ar hyn gan gwestiynnu’r holl ddigwyddiadau a’u heffaith ar Wlad a’i phobl.

4.Agweddau ar Hanes Cymru

Rhaid dysgu pob agwedd o Hanes Cymru mewn modd beirniadol a hunan ymwybodol, dim bwys os yw’n elfen negyddol neu’n bositif, mae’n bwysig fod Hanes ein gwlad yn cael ei gwestiynnu a chael digon o archwiliadau ynddo– er enghraifft ein cyfraniad at yr Ymerodraeth a gwaddol y gyfundrefn honno o ran ein hagweddau a’n perthynas gyda grwpiau lleifafrifol yng Nghymru heddiw. Mae hyn hefyd yn edrych ar y syniad o “berspectif”, a gwerthuso y rol cafodd bobl Cymru ar ddiwyllianht Gymreig ar ddigwyddiadau yn y Deyrnas Gyfunnol, Ewrop a’r Byd.

Elfed Wyn Jones

Aberystwyth